top of page
Salt%2526SeaCo_edited_edited
Salt&SeaCo.-189
Salt%26SeaCo_edited

Siop

Goffi

 

46-Brand-Colour_edited.png
Salt&SeaCo.-24.jpg

Blas o Adra

Croeso

Dan ni mor falch eich bod wedi’n canfod ni. 

​

Mae Rhif 46 yn fusnes ‘teuluol’, sydd wedi ei esblygu o dad i fab. Rydym wedi bod yn gwasanaethu cymuned Cricieth a’r cyffiniau ers dros 10 mlynedd, gan groesawu pobl leol ac ymwelwyr drwy ein drysau, gyda choffi safonol, cacennau cartre’, a bwyd ffres.

Ein ‘Teulu' yw ein hangerdd, a’n gobaith ydi darparu man cyfeillgar a chynnes i bobl gyfarfod, ymlacio a dadflino.

Gyda chyflenwad dyddiol o ryseitiau gwreiddiol o gegin Mam, rydym yn eich gwahodd i ymweld, ymlacio, a phrofi blas bach o adra.

Edrychwn ymlaen at wasanaethu pawb.

 

LLUN - SADWRN
9:00yb - 4:30yp
 

Oriau Agor

46 Stryd Fawr

Cricieth

LL52 0EY

Salt%26SeaCo_edited.jpg

Tystebau

 

“Wedi galw i mewn gyda dau ffrind ddoe. Cappuccino blasus wedi'i baratoi'n berffaith, ynghyd â phastai meringue lemwn rhagorol a'r cwstard wy gorau i mi ei flasu ERIOED. Roedd y staff yn gyfeillgar ac yn broffesiynol iawn. Mae hwn yn lle arbennig iawn.”
Mai 2019
 

 

"Bwyd blasus, help llaw, y gwasanaeth mwyaf cyfeillgar a chroesawgar i mi ei adnabod erioed. Methu ei argymell mwy! Dymunwn i ni fyw'n agosach."
Awst 2020



"Bu'n rhaid dod draw o Feddgelert i Griccieth i gael gwasanaeth fy nghar a threulio ychydig oriau yn y dref hardd yma. Aethon ni i ymweld â'r caffi yma ar gyfer ein unarddegwyr. Gwnaeth y profiad i gyd argraff fawr - coffi yn braf a phoeth, cacennau te yn fawr ac roedd y roedd y staff yn gyfeillgar iawn, awyrgylch da yn ogystal â chymysgedd o dwristiaid a phobl leol.
Roedd y fwydlen ginio yn edrych yn ddeniadol iawn, byddwn yn bendant yn ôl!"
Chwefror 2022

bottom of page