top of page

o'r
Becws

cake illustration.png
​Mae gennym dîm anhygoel yn pobi, yn gweithio'n galed i gynhyrchu cacennau o safon. I gyd wedi ei gwneud gartre' ac yn dod yn syth o'r popty trwy gydol y dydd.
Salt&SeaCo.-448.jpg

Prif bobydd a chrëwr sgons ffrwythau anferthol 46, a'r pei Meringue Lemwn aruthrol.

 

Wedi ei hysbrydoli gan ryseitiau sydd wedi cael ei phasio lawr dros y cenedlaethau. Fel Tarten Gwstard blasus Nain. Mae Ruth wedi cymryd blynyddoedd i ddatblygu ei fersiynau hi o'r clasuron sy'n gyfarwydd iawn i'w phlant a'i wyrion.  Gobeithio y byddwch yn profi blas yr atgofion ymhob gegaid.

Cyfarfod Ruth (mam)

Cyfarfod Ali (mam arall)

Mam i dri, gyda blynyddoedd o brofiad mewn arlwyo ar gyfer digwyddiadau a phartïon. Mae Ali wedi datblygu ei sgiliau coginio yn ei chegin ei hun ac yn pobi gydag angerdd.

 

Mae ei tharten geirios o fri a'i tharten lemwn yn toddi yn eich ceg. Mae Ali yn sicr yn gwybod sut i greu gwledd!

bottom of page