Ein
Stori

Y Rhieni
Wedi ymgartrefu yng Nghricieth ers 25 mlynedd, gan fyw yn yr union adeilad lle mae Rhif 46 bellach, crëwyd y Siop Goffi gan Alistair a Ruth Mead0ws.
Eu gweledigaeth oedd creu man croesawus a chartrefol ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd, gan gynnig bwyd cartre' o safon uchel a choffi da. Buan iawn daeth Rhif 46 yn ffefryn gan bawb.
Y Mab
Aeth ei mab Jacob o gartref yn 16 oed i ddilyn ysgoloriaeth gyda Rygbi Cymru. Yn 2014, roedd yn hiraethu i ddychwelyd adref i Gricieth ac ymuno â'i rieni yn eu gweledigaeth ar gyfer Rhif 46. Mae Jake wrth ei fodd yn sgwrsio, yn gwerthfawrogi ei gymuned leol ac yn awyddus i ddarparu gwasanaeth rhagorol.
Yn 2016 daeth Jake yn berchnog o Rif 46, gan ddatblygu’r busnes ymhellach. Mae wedi adeiladu tîm gwych ymroddgar sy’n gwireddu'r syniad o 'deulu’ sydd yn hanfodol i lwyddiant y siop goffi.
Yn 2023 wnaeth yr busnes teuluol ehangu gan esblygu Bar 51 ar ochr arall y stryd - bar sy'n arbenigo mewn Tapas a diodydd.
​
​
​